DWLP02

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol | Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee

Datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 |Development of post-16 Welsh language provision

Ymateb gan Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY) | Evidence from Commission for Tertiary Education and Research (CTER)

Annwyl Gadeirydd

4 Ebrill 2024

 

Rwy’n ysgrifennu mewn ymateb i’ch ymgynghoriad ynghylch datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16. 

Fel y byddwch eisoes yn ymwybodol, bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil – y corff newydd a noddir gan Lywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg ôl-16 ac ymchwil – yn cael ei sefydlu ar 1 Awst 2024. 

Mae gan y Comisiwn un ar ddeg o ddyletswyddau strategol, gan gynnwys: “Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg”. Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn annog y galw am addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi, a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb y galw. Yn yr achos cyntaf, bydd y Comisiwn yn etifeddu ymrwymiadau cyllido a wnaed gan y cyrff a’i rhagflaenodd, sef CCAUC mewn perthynas ag addysg uwch, a Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg bellach a phrentisiaethau, gan gynnwys dysgu oedolion a’r gymuned a chweched dosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid sydd wedi’i fwriadu i gefnogi’r ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn at ddiben ei gynorthwyo i gyflawni’r ddyletswydd hon. Fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddynodi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn ar 5 Mehefin 2023. 

Yn ogystal â’r dyletswyddau strategol a nodir yn y ddeddfwriaeth, mae’r Comisiwn hefyd yn cael Datganiad o Flaenoriaethau Strategol gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y cyntaf o’r rhain ei gyhoeddi a’i ddarparu i’r Comisiwn ar 28 Chwefror 2024. 

Roedd hwn yn cynnwys cyfeiriad ychwanegol at y Gymraeg, gyda’r cyfarwyddiadau ar gyfer y Comisiwn yn cynnwys “Datblygu cynllun i gynyddu a gwella'r ddarpariaeth addysg ac asesu cyfrwng Cymraeg yn y system drydyddol gyfan, a'i hyrwyddo, gan gydnabod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y person dynodedig o dan Adran 9 o Ddeddf 2022 a Cymwysterau Cymru fel y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol. Mae hyn yn rhan allweddol o'r llwybr di-dor i ddysgwyr at yr addysg drydyddol o'u dewis”. 

Mae gwaith bellach wedi dechrau ar gynllun strategol y Comisiwn mewn ymateb i’r Datganiad o Flaenoriaethau Strategol, a fydd yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn 15 Rhagfyr 2024. Bydd y Comisiwn yn ymgysylltu ac yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid a darparwyr wrth lunio’r cynllun hwnnw, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o ran y Gymraeg megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg. 

Wrth i’r Comisiwn ymgymryd â’i ystod lawn o swyddogaethau, edrychwn ymlaen at gyfrannu at drafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 a’r cyllid ar ei chyfer, er mwyn cefnogi dull cydlynol ar draws y sector trydyddol o wireddu uchelgeisiau Cymraeg 2050. Gan hynny, byddwn yn dilyn canfyddiadau’r Pwyllgor gyda diddordeb. 

Cofion cynnes,

 

Simon Pirotte

Simon Pirotte OBE 

Prif Weithredwr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil